Wolves 1-2 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Fraizer CampbellFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Fraizer Campbell ddwywaith wrth i Gaerdydd agor y bwlch ar frig y tabl

Wolves 1-2 Caerdydd

Gyda Hull yn cael cweir ddydd Sadwrn, roedd gan Gaerdydd gyfle gwych i agor y bwlch ar frig tabl y Bencampwriaeth wrth deithio i wynebu Wolves brynhawn Sul.

Mae Wolves yn cael tymor anodd, ac yn ddiweddar wedi penodi rheolwr newydd- cyn ymosodwr Abertawe, Wrecsam a Chymru Dean Saunders.

Ond methodd Saunders ag ysbrydoli ei dîm wrth groesawu'r tîm sy'n hyrddio tuag at le yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.

Prin bod y tîm cartref wedi llwyddo i danio ergyd at gôl Gaerdydd drwy'r prynhawn.

Er hynny dim ond un gôl ddaeth yn yr hanner cyntaf er i Gaerdydd gael sawl cynnig.

Frazier Campbell gafodd y gôl - yn sgorio'i gyda'i ben o ddwy lathen - i sicrhau'r fantais i dîm Malky Mackay ar yr egwyl.

Ymlacio

Yr un oedd y stori yn yr ail hanner - Caerdydd yn pwyso, Wolves yn amddiffyn, a chefnogwyr Caerdydd yn dal eu gwynt.

Ond fe ddaeth yr ail gôl wedi 67 munud a Campbell oedd y sgoriwr unwaith eto.

Gôl ddigon tebyg i'r gyntaf oedd hi - peniad yn y cwrt chwech i ddyblu'r fantais.

Ond yna fe ymlaciodd Caerdydd, ac o fewn tri munud roedd Wolves wedi sgorio gyda'i hail gynnig at y gôl.

Cic rydd Bakary Sako sicrhaodd bod yr ugain munud olaf yn rhai nerfus i'r prifddinasyddion.

Er i'r ddau dîm gael cyfleoedd y munudau cloi, fe ddaliodd Caerdydd eu gafael am y triphwynt i agor bwlch o wyth pwynt unwaith eto ar frig y tabl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol