Abertawe'n paratoi am barti i ddathlu ennill Cwpan y Gynghrair
- Published
Mae'n anodd crynhoi camp Abertawe yn Wembley brynhawn Sul.
Ar ddiwrnod ola'r tymor yn 2003, roedd rhaid i'r clwb ennill i gadw'u statws yn y gynghrair bêl-droed - drwy lwc fe wnaethon nhw.
Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae'r clwb yn yr Uwch Gynghrair, wedi ennill un o brif dlysau pêl-droed Lloegr ac yn paratoi i chwarae yng nghystadlaethau Ewrop wedi absenoldeb o dros 20 mlynedd.
Ac mae'r cyfan wedi digwydd yn nhymor canmlwyddiant y clwb.
Dydd Sul fe wnaeth Abertawe guro Bradford City o 5-0.
Un o'r cyntaf i'w llongyfarch oedd Llywydd y Cynulliad, Rosemary Butler.
"Mae hwn yn ganlyniad enwog i Michael Laudrup a'i dîm, a hefyd i ddinas Abertawe.
"Dyma'r tro cyntaf i dîm o Gymru ddod â Chwpan y Gynghrair yn ôl i Gymru, sy'n golygu bod y fuddugoliaeth yn ehangach na champ pêl-droed yn unig.
"Mae'n ddiwrnod hanesyddol i chwaraeon yng Nghymru ac yn un a fydd yn parhau drwy'r blynyddoedd sydd i ddod.
"Rwyf mor hapus dros gefnogwyr y clwb a thrigolion y ddinas gyfan, ac rwy'n amau y bydd tipyn o bennau tost yn Abertawe bore yfory."
Bws agored
Cyn pen dim daeth y cyhoeddiad y bydd gorymdaith arbennig i ddathlu'r llwyddiant.
Fe fydd bws agored yn cludo'r tîm drwy ddinas Abertawe nos Fawrth, gan roi cyfle i'r miloedd o gefnogwyr nad oedd yn medru teithio i Wembley i ganu clodydd eu harwyr.
Dywedodd Maer y Ddinas, y Cynghorydd Dennis James: "Mae hon yn foment anhygoel i'r Elyrch ac i Abertawe gyfan.
"Ar ôl ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, mae digwyddiadau dydd Sul yn agor pennod newydd yn hanes llwyddiant ysgubol i dîm pêl-droed ein dinas.
"Rwy'n siŵr y bydd miloedd o gefnogwyr yn aros i fod yn rhan o ddigwyddiad a fydd yn cael ei gofio am flynyddoedd."
Mae trefniadau eisoes yn eu lle i gau rhai ffyrdd fel bod y bws yn gallu teithio o'r Kingsway cyn troi ar hyd Ffordd Sain Helen ac i Neuadd y Ddinas.
Roedd arweinydd Cyngor Abertawe yn barod i roi teyrnged i'r tîm a'u cadeirydd, ac yn awyddus i bwysleisio'r budd economaidd allai ddod i'r ddinas yn dilyn y llwyddiant.
Dywedodd David Phillips: "Roedd llygaid y byd ar Wembley, a'n clwb ni sy'n ennill y clodydd.
"Hoffwn longyfarch Michael Laudrup, ei staff a'r chwaraewyr.
"Rhaid diolch hefyd i'r cadeirydd Huw Jenkins a'r bwrdd am y modd y maen nhw wedi llywio'r clwb i'r brig yn nhymor canmlwyddiant y clwb.
"Degawd yn ôl roedd y clwb bron â diflannu'n llwyr, ond nawr rydym yn edrych ymlaen at gystadlu yn Ewrop y tymor nesaf."
Mae presenoldeb Abertawe yn yr Uwch Gynghrair wedi ychwanegu amcangyfrif o £58 miliwn o hwb economaidd i'r ddinas yn y tymor cyntaf yn unig, ac mae disgwyl i ymweliadau gan glybiau o Ewrop roi hwb ychwanegol.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Chwefror 2013
- Published
- 25 Chwefror 2013
- Published
- 25 Chwefror 2013
- Published
- 23 Ionawr 2013
- Published
- 9 Ionawr 2013
- Published
- 12 Rhagfyr 2012
- Published
- 31 Hydref 2012
- Published
- 25 Medi 2012
- Published
- 28 Awst 2012