Annog pobl i gychwyn pob sgwrs yn y Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae siaradwyr Cymraeg yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cymru i ddechrau pob sgwrs yn Gymraeg yn eu bywyd bob dydd.
Nod ymgyrch Cymraeg yn Gyntaf, yw perswadio siaradwyr Cymraeg rhugl i siarad Cymraeg yn gyntaf wrth ddefnyddio gwasanaethau yn eu cymunedau.
Mae'r fenter yn ymateb i bryderon fod siaradwyr Cymraeg yn aml yn dechrau sgyrsiau yn Saesneg mewn siopau, banciau, bwytai a gwasanaethau a gweithgareddau eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod sgwrs yn tueddu i barhau yn yr iaith y mae'n cychwyn - a dau siaradwr Cymraeg rhugl yn aml yn dal ati i drafod yn gyfan gwbl yn Saesneg.
Y nod yw targedu ardaloedd yn y gogledd a'r gorllewin gan gynnwys Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Powys, Ceredigion, Gwynedd, Sir Ddinbych ac Ynys Môn.
'Gallwn wneud mwy'
Bydd yna hefyd dudalen ar Facebook sy'n nodi busnesau a llefydd lle mae Cymraeg yn cael ei siarad yn rheolaidd.
Mae Martin John Jones, cigydd o Rydaman, yn cefnogi'r ymgyrch i annog cwsmeriaid i gychwyn eu sgwrs yn Gymraeg yn ei siop.
"Mae Rhydaman yn ardal sydd, yn draddodiadol, â llawer o siaradwyr Cymraeg.
"Rwy'n siarad â llawer iawn o'm cwsmeriaid yn Gymraeg ond rwy'n gwybod y gallwn hefyd fod yn gwneud hynny â mwy.
"Mae gen i lawer o gwsmeriaid sy'n dysgu Cymraeg ac maen nhw'n gwneud ymdrech i ddefnyddio'r iaith."
Un arall sy'n cefnogi'r ymgyrch ydi gwerthwr papurau newydd o Ystradgynlais, Val Williams.
"Mae llawer o bobl yr ardal yn deall Cymraeg ond yn debyg o ddechrau sgwrs yn reddfol ac yn ddifeddwl yn Saesneg.
"Mae'r Gymraeg yn rhedeg drwy'r gymdeithas ac rwy'n gobeithio y gallwn ni annog cwsmeriaid i ddechrau eu sgwrs yn Gymraeg yn gyntaf."
Bywyd bod dydd
Dywedodd Leighton Andrews, gweinidog yn Llywodraeth Cymru sydd â chyfrifoldeb am y Gymraeg, ei bod yn bwysig i gadw'r iaith yn fyw yn yr ardaloedd traddodiadol.
"Drwy annog siaradwyr Cymraeg rhugl i gychwyn pob sgwrs yn Gymraeg fe allwn ni sicrhau fod yr iaith yn dal yn rhan o'n bywyd bob dydd."
Ar drothwy Gŵyl Ddewi mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu trefnu yn ardaloedd Rhydaman ac Ystradgynlais i annog pobl i gymryd rhan mewn digwyddiadau Cymraeg.
Dyma'r digwyddiadau yn Rhydaman:
- Dydd Mawrth Chwefror 26 7:45am-9.30am 'Brecwast Busnes', Mountain Gate, Tycroes.
- Dydd Mercher Chwefror 27 9:30-11:30am: Lansio 'Ti a Fi Rhydaman' yn Llyfrgell Rhydaman.
- Dydd Iau Chwefror 28: 10:00 pm - 1:00 pm 'Bore Dewi' yn Neuadd y Pensiynwyr, Rhydaman.
- Dydd Gwener Mawrth 1: Parti Stryd Dydd Gŵyl Ddewi, yn cael ei drefnu gan Fenter Bro Dinefwr.
Dyma'r digwyddiadau yn Ystradgynlais:
- Dydd Mawrth Chwefror 26 9.30am-11.30am 'Bore o Hwyl yn Ysgol Gymraeg Dyffryn y Glowyr.
- Dydd Mercher Chwefror 27 8.00am-9.30am 'Brecwast Busnes', Merlins, Ystradgynlais.
- Dydd Iau Chwefror 28 : 9:30am-11.30am Sesiwn Sgiliau Chwaraeon yn Ysgol Ystalyfera yn cael ei rhedeg gan Sgil Cymru.
- Dydd Gwener Mawrth 1: Gorymdaith Dydd Gŵyl Ddewi: Neuadd Les Ystradgynlais sy'n ei drefnu. Bydd yr orymdaith yn cychwyn yn Eglwys Cynog Sant ac yn cyrraedd y Neuadd Les tua 10.30am a bydd Jamborî Martyn Geraint yn dilyn yn y Neuadd Les.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2013