Cyhoeddi lleoliad gŵyl cyhoeddi Eisteddfod Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgan mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir Gŵyl y Cyhoeddi eleni.
Bydd gorymdaith yr Orsedd a Seremoni'r Cyhoeddii yn cael eu cynnal ym Mharc Caerfyrddin ar Fehefin 29.
Cynhelir Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr yn Llanelli o 1-9 Awst 2014.
Dywedodd Trefnydd yr Eisteddfod, Hywel Wyn Edwards, "Mae'n bleser cyhoeddi bod y Pwyllgor Gwaith lleol, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o bob rhan o'r sir, a Bwrdd yr Orsedd, wedi cytuno mai yn nhref Caerfyrddin y cynhelir y Cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr.
"Bydd yr Orsedd a chynrychiolwyr o bob math o sefydliadau a chymdeithasau lleol yn gorymdeithio drwy'r dref a chynhelir y seremoni'i hun ym Mharc Caerfyrddin yn ystod y prynhawn.
"Byddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn nes at yr amser, a gobeithio y bydd nifer fawr o drigolion yr ardal yn heidio i Gaerfyrddin er mwyn mwynhau digwyddiad mawr cyntaf Eisteddfod 2014."
Straeon perthnasol
- 8 Chwefror 2013
- 17 Ionawr 2013
- 11 Awst 2012