Prosiect newydd i archwilio gwyliau yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

O deithiau i lan môr i ddawnsfeydd gyda'r nos, bydd prosiect newydd yn rhoi cyfle i hyd at 60 o bobl ifanc i archwilio hanes adloniant Ceredigion yn ystod y 50 mlynedd diwethaf.
Mae'r prosiect dwy flynedd, o dan arweiniad Amgueddfa Ceredigion, wedi derbyn grant gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) gwerth tua £45,000.
Fe fydd y prosiect yn ymwneud â phobl hŷn yn y gymuned a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc.
Bwriad y prosiect yw canolbwyntio ar dair prif thema, sef teithiau undydd, nosweithiau allan a gwyliau.
Fel rhan o'r prosiect, bydd cyfranogwyr yn derbyn hyfforddiant mewn technegau cadwraeth, hanes ar lafar, dehongli, digwyddiadau ac arddangosfeydd.
'Gweithgareddau'
Byddan nhw hefyd yn creu 'Blychau Darganfod', a fydd yn cynnwys gwrthrychau, straeon a lluniau am ddiwylliant pobl ifanc, i'w defnyddio yn y gymuned ymhell wedi i'r prosiect ddod i ben.
Bydd dawns fawreddog â mygydau a pherfformiad syrcas Oes Fictoria yn cael eu trefnu gyda chymorth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, yn ogystal ag arddangosfa wedi'i churadu gan y bobl ifanc, yn nodi anterth y prosiect ar ddiwedd 2014.
"Bydd cefnogaeth CDL o'r prosiect hwn yn ein galluogi i ddatblygu gweithgareddau'r bobl ifanc yn yr amgueddfa ac ymgysylltu'n fwy eang â phobl ifanc ledled y sir," meddai Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion.
"Bydd y prosiect hwn yn cael ei ysgogi gan y bobl ifanc, a byddan nhw'n ffurfio panel llywio o chwe aelod - Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion - a fydd yn penderfynu ar gyfeiriad y prosiect ac yn cydlynu cyfraniadau eu cyfoedion."
Bydd y prosiect yn cael ei gyflenwi mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys RAY Ceredigion, rhwydwaith gofal plant y tu allan i'r ysgol a gwasanaeth chwarae mynediad agored, Age Concern, a sefydliad celfyddydau mewn iechyd, Haul Ceredigion.
Bydd swydd ran amser newydd hefyd yn cael ei chreu yn yr amgueddfa er mwyn cefnogi panel llywio Panel Ieuenctid Treftadaeth Ceredigion.
Straeon perthnasol
- 5 Awst 2012
- 21 Gorffennaf 2012
- 26 Mai 2012
- 6 Tachwedd 2011