Tesco: 150 i golli eu gwaith ym Magwyr

  • Cyhoeddwyd

Bydd 150 o bobl yn colli eu swyddi yng nghanolfan ddosbarthu Tesco ym Magwyr, ger Casnewydd.

Mae tua 800 o bobl yn cael eu cyflogi yno ar hyn o bryd, ond mae'r archfarchnad yn bwriadu canolbwyntio'r gwaith ar ddau safle newydd yn Reading a Dagenham.

Dywed Tesco na fydd y ganolfan ddosbarthu ym Magwyr yn cael ei chau.

Mae Tesco yn dweud eu bod wedi dechrau cyfnod ymgynghori gyda staff, a'u bod yn gobeithio cynnig swyddi newydd yn safleoedd eraill y cwmni.

Dywedodd llefarydd ar ran Tesco: "Rydym wedi bod yn adolygu ein rhwydwaith dosbarthu ac rydym wedi cadarnhau gostyngiad bach o ran ein gweithrediad ym Magwyr.

"Rydym wedi hysbysu pawb fydd yn cael eu heffeithio ac rydym yn cydweithio â nhw a'u cynrychiolwyr."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol