Bygythiad i 70 o swyddi ffatri gaws
- Cyhoeddwyd

Bydd ffatri gaws yn cau yng Ngorllewin Cymru gan olygu y gallai 70 o bobl golli eu swyddi.
Dywedodd cwmni Saputo, sydd â'u pencadlys yn Montreal, Canada, eu bod wedi dechrau ar gyfnod ymgynghori 30 diwrnod i gau eu ffatri yng Nghastell Newydd Emlyn.
Caws mozzarella sy'n cael ei gynhyrchu ar y safle.
Bydd y cwmni hefyd yn cau ffatri gaws yn Heiden yn yr Almaen wrth iddynt roi'r gorau i'w busnes yn Ewrop.
Mae cwmni Saputo wedi bod yn berchen ar y ffatri yng Nghastell Newydd Emlyn ers 2007, wedi i gwmni Dansco fynd i'r gwellt.
Yn 2009 collodd 40 aelod o staff eu swyddi yno oherwydd gostyngiad ym mhris caws a diffyg cyflenwyr llaeth.
Mewn datganiad, dywedodd Saputo fod symud i farchnad Ewrop wedi bod yn "brofiad heriol".
Cyfarfod brys
Mae Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, yn bwriadu galw am gyfarfod brys gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r cynlluniau i gau'r ffatri.
"Mae'n newyddion siomedig iawn i weithwyr Saputo a'r diwydiant cefn gwlad yn ehangach. Mae nifer o ffermwyr yng ngorllewin a de orllewin Cymru'n cyflenwi'r ffatri. Cafodd pwysigrwydd y safle ei ddangos yn y frwydr i ddiogelu dyfodol yr hen ffatri Dansco," meddai Mr Thomas.
"Mae'n hollbwysig eu bod yn edrych nawr ar bob opsiwn i gadw'r gwaith i fynd a chadw gweithwyr yn eu swyddi - boed hyn trwy ddod o hyd i brynwr posib neu trwy fodel cydweithredol lleol.
"Byddaf yn siŵr o godi hyn gyda Llywodraeth Cymru fel bod cymaint o gefnogaeth â phosib yn cael ei roi i'r gweithlu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2009
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2009
- Cyhoeddwyd1 Mehefin 2009
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2007