Dinas yn paratoi i ddathlu gyda Chlwb Pêl-Droed Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae disgwyl miloedd o gefnogwyr Yr Elyrch ymgasglu yng nghanol Abertawe i ddathlu camp y pêl-droedwyr enillodd Gwpan y Gynghrair dros y penwythnos.
Yn Wembley ddydd Sul fe wnaeth Abertawe ennill y gwpan drwy guro Bradford City o 5-0.
Ym mlwyddyn canmlwyddiant y clwb fe fydd 'na gryn ddathlu wrth i'r tîm orymdeithio drwy'r ddinas gyda'r Gwpan.
Abertawe yw'r clwb cyntaf o Gymru i ennill y gwpan.
Mae'n golygu y bydd tîm Michael Laudrup yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.
'Diolchgar'
Fe fydd yr orymdaith ar fws agored yn cychwyn o ganol y ddinas, o flaen gwesty'r Ddraig ar Ffordd y Brenin am 4.30pm.
Fe fydd y daith yn dod i ben yn Neuadd y Ddinas tua 5.30pm.
Dywedodd y cyngor sir y bydd ffyrdd yn cau er mwyn achosi cynllied o drafferthion â phosib ac i warchod diogelwch y cefnogwyr.
O KFfordd y Brenin fe fydd y bws yn teithio tuag at Ffordd y Gorllewin, ymlaen ar hyd Heol San Helen i Neuadd y Ddinas.
Bydd y tîm, rheolwyr a staff y clwb yn mynychu digwyddiad yn ddiweddarach yn Neuadd y Ddinas.
"Rydym eisiau dangos i'r tîm ein bod yn ddiolchgar am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i'n dinas," meddai arweinydd y cyngor, y Cynghorydd David Phillips.
"Rydym am roi cyfle i'r 33,000 oedd yn Wembley a'r rhai na allai fynd yno i ddangos eu cefnogaeth i'r arwyr.
"Roedd 'na filoedd yn y ddinas pan wnaeth y tîm sicrhau dyrchafiad (yn 2011) ac rydym yn disgwyl cymaint eto.
"Dim ots os nad ydach chi'n gefnogwr pêl-droed a'i pheidio, mae hyn yn gwbl bwysig i'r ddinas.
"Dewch yma a dewch i gefnogwyr y tîm."
Fe ychwanegodd Arglwydd Faer Abertawe, Dennis James, bod hyn yn gyfle arbennig i'r Elyrch ac i Abertawe.
"Ar ôl y dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, mae digwyddiadau dydd Sul yn gychwyn pennod newydd yn hanes rhyfeddol y clwb."
Unwaith i'r orymdaith basio fe fydd ffyrdd y ddinas yn ail agor.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd31 Mai 2011
- Cyhoeddwyd31 Mai 2011