Gohirio gêm Casnewydd yn erbyn Gateshead
- Cyhoeddwyd
Mae gêm Casnewydd yn erbyn Gateshead nos Fawrth yn Uwchgynghrair Blue Square yn Stadiwm Rhyngwladol Gateshead wedi ei gohirio.
Fe gafodd y penderfyniad ei wneud ddydd Llun gan fod y maes wedi ei orchuddio gydag eira.
Mae 'na rannau o'r maes hefyd o dan ddŵr.
Yn ôl swyddogion does dim modd chwarae ar y maes.
Mae disgwyl i ddyddiad newydd gael ei gyhoeddi cyn gynted â phosib.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol