Llai o ferched yn eu harddegau yn beichiogi
- Cyhoeddwyd

Mae nifer y merched yn eu harddegau sy'n beichiogi, wedi gostwng yng Nghymru tua 25% dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mae ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn dangos mai ym Mlaenau Gwent y gwelwyd y gostyngiad mwya' yn nifer y merched o dan 18 oed sy'n cael plant, gostyngiad o 32%.
Yn ôl yr ystadegau roedd 34 o bob 1,000 yn feichiog o dan 18 oed yn 2011 o'i gymharu â 45 o bob 1,000 yn 2001.
Dywedodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd bod addysg rhyw wedi gwella a bod hi'n haws cael gafael ar ddulliau o atal cenhedlu.
Fe wnaeth nifer y merched yn eu harddegau sy'n beichiogi yn Lloegr ostwng dros 27% dros yr un cyfnod.
Mae nifer y rhai sy'n cael erthyliad hefyd wedi gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf.
Mwy o ymdrech
Ym mis Mawrth 2012 fe wnaeth Llywodraeth Cymru nodi bod nifer y merched beichiog o dan 18 oed wedi gostwng i'r lefel isa' mewn 18 mlynedd.
Cyfuniad o ffactorau sy'n gyfrifol am hyn yn ôl Julia Chandler, swyddog cenedlaethol Coleg Brenhinol y Bydwragedd yng Nghymru.
"Mae 'na ymdrech wedi bod i leihau nifer y rhai sy'n eu harddegau ac yn beichiogi," meddai.
"Mae o wedi bod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ochr yn ochr o'r ymwybyddiaeth am feichiogrwydd ymhlith rhai sy'n eu harddegau a phawb arall.
"Ac o fewn y 10 mlynedd diwethaf mae dulliau atal cenhedlu wedi dod yn haws cael gafael arno.
"Mae modd mynd i'r fferyllfa i gael y bilsen bore wedyn.
"Does dim angen mynd i weld meddyg na dim."
Ychwanegodd bod addysg rhyw yn destun mwy o drafodaeth agored yn yr ysgolion a'r cartref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2010
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2009
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2001