Gwleidydd o Gymru'n rhan o honiadau yn erbyn Rennard
- Cyhoeddwyd
Mae un o'r merched a wnaeth honiadau yn erbyn cyn-brif weithredwr y Democratiaid Rhyddfrydol yn aelod o'r blaid yng Nghymru.
Cadarnhaodd Alison Goldsworthy ei bod yn un o'r merched dienw a gafodd eu cyfweld gan Channel 4 News, oedd yn dweud eu bod wedi cael eu poeni gan yr Arglwydd Rennard.
Mae o'n gwadu'r honiadau o ymddygiad rhywiol amhriodol.
Dywedodd Ms Goldsworthy ei bod yn "anochel" y byddai ei henw'n cael ei ddatgelu.
Yn gyn-ymgeisydd ar gyfer Y Cynulliad Cenedlaethol, mae hi'n gweithio i gwmni cysylltiadau cyhoeddus yng Nghaerdydd.
Mae hi hefyd yn ddirprwy-gadeirydd gweithgor ffederal y Democratiaid Rhyddfrydol.
Diffyg parch
Mewn datganiad, dywedodd: "Gallaf gadarnhau mai fi oedd y ferch yn narllediad Channel 4.
"Rwy'n canmol Channel 4, y Democratiaid Rhyddfrydol ac unigolion o fewn y blaid, am yr ymdrechion i geisio cadw fy enw'n anhysbys dros gyfnod o flynyddoedd.
"Rwy'n siomedig fod pobl yr oeddwn i'n ystyried yn ffrindiau a ffynonellau eraill wedi dewis peidio parchu hynny, a nawr ei bod yn anochel y bydd fy enw'n cael ei ddatgelu, rwyf wedi penderfynu gwneud hynny fy hun.
"Byddaf yn cydweithio â'r ymholiadau a does gen i ddim sylw pellach i'w wneud."
Bydd swyddogion o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn cwrdd â Heddlu Llundain i drafod yr honiadau yn erbyn yr Arglwydd Rennard.
Mae'r Arglwydd Rennard, oedd hefyd yn brif strategwr ac ymgynghorydd i nifer o arweinwyr y blaid, wedi sôn am ei "sioc" ynglŷn â'r honiadau, gan ddweud eu bod yn "camliwio" ei gymeriad yn llwyr.
Dywedodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw gwynion yn ei erbyn yn ystod ei 27 mlynedd yn gweithio i'r blaid ond ei fod wedi gadael grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol yn Nhŷ'r Arglwyddi am y tro er mwyn osgoi "embaras" i'r blaid.