Achub dau gerddwr oddi ar Dwll Du yn Eryri
- Cyhoeddwyd
Cafwyd hyd i'r ddau gan gi achub
Mae dau gerddwr wedi eu hachub wedi iddyn nhw dreulio noson ar fynydd yn Eryri.
Cafodd y ddau o Surrey eu hachub gan griw hofrennydd oddi ar Dwll Du sy'n rhan o'r Glyderau.
Cafodd y gwasanaethau brys eu hysbysu gan ffrind i'r ddau oedd yn poeni amdanyn nhw wedi iddyn nhw fethu â cherdded oddi ar y mynydd cyn iddi dywyllu nos Lun.
Cafwyd hyd i'r ddau gan gi achub sy'n rhan o dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
Ni chafodd y ddau eu hanafu.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol