Morgannwg: Gwell sefyllfa ariannol

  • Cyhoeddwyd
Stadiwm SwalecFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r clwb wedi derbyn benthyciad o £1 miliwn gan Fwrdd Criced Lloegr a Chymru i wella cyfleusterau'r dorf

Mae Clwb Criced Morgannwg yn dweud bod eu sefyllfa ariannol yn fwy calonogol yn dilyn cyhoeddi eu hadroddiad ariannol blynyddol.

Yn ôl y clwb, fe wnaethon nhw golled weithredol o £315,793 yn ystod y 12 mis tan Ragfyr 31, 2012.

Mae hyn yn cymharu gyda cholled o £2,058,805 yn 2011

Roedd trosiant y clwb o £6,476,185 yn 2012 yn debyg i'r trosiant yn 2011, sef £6,571,636.

"Mae'n bleser datgan fod ein balans ariannol wedi gwella'n sylweddol," dywedodd prif weithredwr Morgannwg, Alan Hamer.

"Er bod ein colled weithredol yn siomedig mae ein perfformiad masnachu wedi gwella yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

"Roedd ein lefelau incwm y llynedd yn debyg iawn i'r flwyddyn gynt er gwaetha'r tywydd garw yn ystod y tymor."

Benthyciad

Mae'r clwb wedi derbyn benthyciad o £1 miliwn gan Fwrdd Criced Lloegr a Chymru i wella cyfleusterau'r dorf sy'n cynnwys gosod sgrîn ail-chwarae newydd, fydd hefyd yn cael ei ddefnyddio fel bwrdd sgôr.

Bydd cartref y clwb, Stadiwm Swalec yng Nghaerdydd, ynghyd â'r Oval yn Llundain ac Edgbaston yn Birmingham, yn cynnal holl gemau Tlws Pencampwriaeth yr ICC rhwng Mehefin 6 a Mehefin 23 eleni.

Bydd Stadiwm Swalec yn cynnal pedair o'r gemau rhagbrofol, gan gynnwys India yn erbyn De Affrica i ddechrau'r gystadleuaeth 50 pelawd ar Fehefin 6.

Bydd un o gemau cynderfynol y bencampwriaeth hefyd yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ar Fehefin 20.

Bydd y stadiwm hefyd yn cynnal Prawf undydd rhwng Lloegr ac Awstralia ar Ddydd Sadwrn Medi 14.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol