Corff mewn cist car: Gŵr yn euog o lofruddio'i wraig
- Cyhoeddwyd

Mae dyn aeth â chorff ei wraig yng nghist ei gar i orsaf heddlu yng ngogledd Cymru wedi ei gael yn euog o'i llofruddio.
Curodd John Yates, 58 oed o Warrington ei wraig Barbara, 49 oed, i farwolaeth ym mis Gorffennaf 2012.
Roedd Yates wedi gwadu'r cyhuddiad o lofruddiaeth ond fe wnaeth gyfadde' dynladdiad.
Ar ôl ystyried eu dyfarniad am ddwy awr ddydd Mawrth, penderfynodd y rheithgor yn Llys y Goron Caernarfon yn unfrydol fod Yates yn euog.
Triniaeth ysbyty
Dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC fod Yates wedi ei gael yn euog yn dilyn "tystiolaeth lethol".
Bydd Yates yn cael ei ddedfrydu ar Fawrth 20 lle mae'n wynebu cael ei garcharu am oes.
Fe yrrodd Yates i swyddfa'r heddlu yn Llanelwy ym mis Gorffennaf y llynedd gyda chorff ei wraig yn ei gar.
Wrth grynhoi'r achos, dywedodd y barnwr Merfyn Hughes QC fod y ffaith fod Mrs Yates wedi tynnu cwyn yn erbyn ei gŵr yn ôl ar ôl iddi gael triniaeth ysbyty wedi iddo ei tharo, wedi bod yn gamgymeriad a allai fod wedi achub ei bywyd.
"Os nad oedd o am gael ei wraig doedd neb yn mynd i'w chael," meddai.
Pan gafodd ei groesholi gan yr erlynydd, y bargyfreithiwr Wyn Lloyd Jones, yn ystod yr achos dywedodd Yates wrth y llys fod ef a'i wraig wedi cael ffrae yn ei gar cyn iddo stopio ger mynediad i gae yn ardal Warrington.
Honnodd ei fod wedi "ffrwydro" wedi i'w wraig ddweud wrtho y byddai'n cael rhyw gyda dynion a dweud wrth eu plant.
Gwadodd ei fod yn dweud celwydd wrth osgoi cael ei ddedfrydu am lofruddio ei wraig.
Mynnodd Yates nad oedd wedi lladd ei wraig am ei bod am gael ysgariad.
Yn gynharach yn yr achos clywodd y llys fod Mrs Yates wedi dweud wrth ei chwaer fod Yates wedi ei chloi mewn cwpwrdd.
Mechnïaeth
Clywodd y llys hefyd fod Mrs Yates wedi penderfynu ei bod wedi cael digon yn 2009, gan adael y diffynnydd, ond bod Yates yn genfigennus am fod ganddi fywyd newydd.
Yn ôl yr erlyniad, aed â Mrs Yates i'r ysbyty yn 2011 wedi iddi ddioddef "ymosodiad hirfaith".
Fe gafodd ei lladd saith mis yn ddiweddarach ar Orffennaf 18, 2012.
Honnodd yr erlyniad fod Yates wedi'i ryddhau ar fechnïaeth yr heddlu ar y pryd, wedi iddo ddwyn 35 pâr o sgidiau a ffrog newydd o dŷ Mrs Yates cyn ei llosgi ar goelcerth 13 diwrnod ynghynt.
Dywedodd Mr Lloyd Jones wrth y rheithgor fod Yates wedi gyrru ei gar Peugeot 306 i orsaf yr heddlu yn Llanelwy cyn siarad â Phrif Arolygydd yno.
Dywedodd Yates wrth y plismon: "Mae'n rhaid imi ildio. Rwyf wedi lladd fy ngwraig. Rwyf wedi cael digon. Mae gen i broblemau iechyd meddwl. Mae hi yng nghefn y car".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd25 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2012