Heddlu'r De'n cipio canabis gwerth £3.5m
- Published
Mae Heddlu De Cymru wedi arwain cyrch i dargedu troseddwyr ar ddwy ochr Pont Hafren gan arestio wyth o bobl a chipio planhigion canabis gwerth £3.5m a £400,000 mewn arian parod.
Cafodd saith dyn a menyw eu harestio yn dilyn cyrchoedd ar 10 eiddo yn ne Cymru a gorllewin Lloegr fore Dydd Mawrth.
Yn ôl Heddlu'r De cafwyd hyd i 7,500 o blanhigion canabis gwerth £3.5m a £400,000 mewn arian parod yn dilyn ymgyrch wnaeth bara ddwy flynedd a hanner.
Bu 130 o blismyn yn cymryd rhan yn y cyrchoedd fore Mawrth oedd yn cynnwys un ym Mharc Busnes Eastgate yng Nghaerdydd lle daethpwyd o hyd i ffatri ganabis.
'Delio cyffuriau'
Bu Heddlu De Cymru yn cydweithio â Heddlu Gwent, Heddlu Gwlad yr Haf ac Avon, gwasanaethau ambiwlans, gwasanaethau tân ac achub ac Asiantaeth Ffiniau'r DU.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Paul Latham, wnaeth arwain yr ymgyrch: "Cafodd Ymgyrch Pristina ei sefydlu i dargedu unigolion roedden ni'n amau o dyfu a chyflenwi canabis yn ne Cymru a gorllewin Lloegr.
"Rydym wedi atal nifer o bobl oedd yn cael eu hamau o ddelio cyffuriau."
Cafodd Ymgyrch Pristina ei lansio ym mis Hydref 2010 ac ers hynny mae 26 eiddo wedi cael eu chwilio gan gynnwys 10 yng Nghaerdydd, Casnewydd, Caerfaddon a Bryste ddydd Mawrth.