Dinas yn dathlu gyda Chlwb Pêl-Droed Abertawe
- Cyhoeddwyd

Ymgasglodd filoedd o gefnogwyr Yr Elyrch yng nghanol Abertawe brynhawn Mawrth i ddathlu camp y pêl-droedwyr enillodd Gwpan y Gynghrair dros y penwythnos.
Yn Wembley ddydd Sul fe wnaeth Abertawe ennill y gwpan drwy guro Bradford City o 5-0.
Ym mlwyddyn canmlwyddiant y clwb roedd 'na gryn ddathlu wrth i'r tîm orymdeithio drwy'r ddinas gyda'r Gwpan.
Abertawe yw'r clwb cyntaf o Gymru i ennill y gwpan.
Mae'n golygu y bydd tîm Michael Laudrup yn chwarae yn Ewrop y tymor nesaf.
'Diolchgar'
Dechreuodd yr orymdaith ar fws agored o ganol y ddinas, o flaen gwesty'r Ddraig ar Ffordd y Brenin cyn teithio tuag at Ffordd y Gorllewin, ymlaen ar hyd Heol San Helen cyn dod i ben yn Neuadd y Ddinas.
Mae'r tîm, rheolwyr a staff y clwb hefyd yn mynychu digwyddiad yn Neuadd y Ddinas nos Fawrth.
Dywedodd capten y tîm a gurodd Bradford City Ddydd Sul, Ashley Williams: "Mae nifer o gefnogwyr wedi bod yn dilyn y clwb ers blynyddoedd gan brofi amseroedd caled.
"Ond yn awr fe allan nhw ddathlu ac rwy'n sicr bod pawb yn mwynhau'r llwyddiant."
Roedd y teulu Squires ymysg y rheiny wnaeth ymgasglu i ddathlu llwyddiant y clwb.
Dywedodd Nicola Squires ei bod wedi bod yn awyddus i'w tri phlentyn i weld yr orymdaith.
"Mae hwn yn brofiad gwych i'r plant," meddai.
Cyfle arbennig
Dywedodd y cyngor sir y byddai ffyrdd yn cau er mwyn achosi cyn lleied o drafferthion â phosib ac i warchod diogelwch y cefnogwyr.
"Rydym eisiau dangos i'r tîm ein bod yn ddiolchgar am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud i'n dinas," meddai arweinydd y cyngor, y Cynghorydd David Phillips cyn yr orymdaith ddechrau.
"Rydym am roi cyfle i'r 33,000 oedd yn Wembley a'r rhai na allai fynd yno i ddangos eu cefnogaeth i'r arwyr.
"Roedd 'na filoedd yn y ddinas pan wnaeth y tîm sicrhau dyrchafiad (yn 2011) ac rydym yn disgwyl cymaint eto.
"Dim ots os nad ydach chi'n gefnogwr pêl-droed a'i pheidio, mae hyn yn gwbl bwysig i'r ddinas."
Fe ychwanegodd Arglwydd Faer Abertawe, Dennis James, bod hyn yn gyfle arbennig i'r Elyrch ac i Abertawe.
"Ar ôl y dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair, mae digwyddiadau dydd Sul yn gychwyn pennod newydd yn hanes rhyfeddol y clwb."
Straeon perthnasol
- 26 Chwefror 2013
- 25 Chwefror 2013
- 24 Chwefror 2013
- 31 Mai 2011
- 31 Mai 2011
- 26 Chwefror 2013