Mewn lluniau: Gorymdaith Tîm Pêl-Droed Abertawe
- Cyhoeddwyd

Ymgasglodd filoedd o gefnogwyr Yr Elyrch yng nghanol Abertawe brynhawn Mawrth i ddathlu camp y pêl-droedwyr enillodd Gwpan y Gynghrair dros y penwythnos.

Dechreuodd yr orymdaith ar fws agored o ganol y ddinas, o flaen gwesty'r Ddraig ar Ffordd y Brenin cyn teithio tuag at Ffordd y Gorllewin, ymlaen ar hyd Heol San Helen cyn dod i ben yn Neuadd y Ddinas.
Roedd Mary John, 70 oed, o Fôn-y-maen, ymysg y dorf. Dywedodd: "Hwn yw'r peth gorau sydd wedi digwydd i Abertswe ers blynyddoedd."
Perfformiodd Only Women Aloud a Chôr Ffenics ar risiau Eglwys Fethodistaidd Brunswick wrth i'r bws fynd heibio
Penderfynodd perchennog Zowie y ci, James Williams y byddai'n syniad da i'w gi wisgo ei grys pêl droed.
Yn dilyn yr orymdaith fe wnaeth y rheolwr, Michael Laudrup, a chapteniaid y clwb, Garry Monk ac Ashley Williams annerch y dorf.