BBC Cymru Fyw

Barrow 0-1 Wrecsam

Published
Mae Wrecsam yn parhau ar frig Uwchgynghrair Blue Square ar ôl cael tri phwynt gyda'i buddugoliaeth nos Fawrth yn erbyn Barrow.
Cyfunodd Glen Little gyda Robert Ogleby i greu'r cyfle i Kevin Thornton i ergydio i'r rhwyd chwe munud cyn y diwedd.
Bu'n frwydr galed i'r Dreigiau, yn enwedig ar ôl i Jay Harris gael ei anfon o'r cae am ymddygiad treisgar wedi 62 munud.

Straeon perthnasol

  • Gateshead 0-1 Wrecsam