Marw-enedigaeth: 'Angen gwneud mwy'
- Cyhoeddwyd

Dylid gwneud mwy i sicrhau bod llai o fabanod yn cael eu geni yn farw yng Nghymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae tua 180 o fabanod yn farwanedig pob blwyddyn, ffigwr sy'n rhy uchel o ystyried datblygiadau meddygol, meddai'r Aelodau Cynulliad.
Yn ôl y pwyllgor, gallai 60 o fywydau'r flwyddyn gael eu hachub petai canllawiau mwy caeth yn cael eu cyflwyno.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw'n ystyried casgliadau'r adroddiad.
Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylid hyfforddi arbenigwyr i siarad gyda rhieni mewn galar er mwyn ceisio cael caniatâd ar gyfer archwiliadau post mortem.
Dyw achos y farwolaeth ddim yn hysbys mewn bron i hanner yr achosion.
Ond yn 2011, dim ond 40.5% o rieni a roddodd ganiatâd i gynnal post mortem.
Ers y 1990au cynnar, mae rhwng 4.2 a 5 o bob 1,000 o fabanod yn cael eu geni'n farw yng Nghymru - mae'r niferoedd yn debyg ar draws y DU, sydd â'r raddfa uchaf o farw-enedigaethau yn Ewrop.
Sgan
Fe gollodd Elfed Morgan o Efail Newydd ger Pwllheli ei fab Gwion, a aned yn farw dair blynedd yn ôl. Roedd yn brofiad anodd iddo a'i bartner, Tina.
"Mae angen mwy o waith ymchwil, yn enwedig i famau sy'n disgwyl am y tro cynta," meddai Mr Morgan.
"Dwi'n gwybod mae'r sgan cynta' mae rhywun yn cael ydy 12 wythnos - ddyle bod 'na ella, yn enwedig i rywun sydd wedi colli, ddyle bod 'na sgan cyn hynny."
Cynhaliodd ACau ymchwiliad undydd i enedigaethau marw-anedig, gan holi meddygon, bydwragedd, rhieni oedd wedi colli babanod ac ymgyrchwyr.
Mae eu hadroddiad yn argymell cyfres o fân newidiadau allai leddfu'r broblem:
- Dylai rhieni sy'n disgwyl baban gael mwy o wybodaeth am farw-enedigaethau
- Mae angen mwy o gysondeb wrth i fabanod gael eu sgrinio yn y groth - a ddylid cynnal profion uwchsain yn amlach, ac ai defnyddio tâp mesur yw'r ffordd orau o fesur twf y ffoetws?
- Os yw'r ffoetws yn symud llai, dylai rhieni wybod fod hyn yn arwydd posib o faban marw-anedig
- Mae angen i'r llywodraeth fuddsoddi mwy mewn gwaith ymchwil ar farw-enedigaethau
'Dinistrio teuluoedd'
Dywedodd Mark Drakeford AC, Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
"Mae marw-enedigaeth yn drasiedi sy'n dinistrio teuluoedd. Ac eto, mae ein hymwybyddiaeth, fel poblogaeth, o farw-enedigaeth - yn benodol yr hyn sy'n ei achosi a'r hyn y gellir ei wneud i'w rwystro - yn bryderus o isel.
"Fel Pwyllgor, does dim amheuaeth gyda ni fod modd lleihau nifer yr achosion o farw-enedigaethau yng Nghymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod "yn gweithio gyda'r gwasanaeth iechyd i leihau cyfradd marw-enedigaethau yng Nghymru, ac fel rhan o hynny fe fyddwn yn ystyried yr adroddiad hwn".
Straeon perthnasol
- 12 Mehefin 2012
- 20 Medi 2011
- 5 Mawrth 2012