Arian i wella presenoldeb mewn ysgolion
- Published
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd £800,000 ar gael i wella presenoldeb disgyblion mewn ysgolion.
Pedwar 'consortia' rhanbarthol fydd yn derbyn yr arian.
Yn y gorffennol, awdurdodau lleol fu'n gyfrifol am ddelio â phresenoldeb.
Bydd y grant newydd ar gael dros gyfnod o ddwy flynedd gyda £200,000 yn cael ei rannu rhwng y pedwar consortiwm yn 2012/13 a £600,000 yn 2013/14.
Andwyol
Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y bydd yn rhaid i'r consortia gyflwyno cynigion ynghyd â chostau cyn iddyn nhw gael y cyllid.
"Mae absenoldeb parhaus yn cael effaith andwyol ar addysg plant.
"Yn syml iawn, pan fydd plentyn ddim yn yr ysgol, fydd e ddim yn dysgu."
Yn ôl ffigurau Llywodraeth Cymru ar gyfer 2011/12 canran presenoldeb mewn ysgolion cynradd oedd 93.8% - gwelliant o 0.5% ar y flwyddyn flaenorol.
Y gyfradd gyffredinol ar gyfer presenoldeb mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru yn 2011/12 oedd 92.2% - cynnydd o 0.8% ar y flwyddyn flaenorol.
"Er hynny, er ei bod hi'n galonogol gweld cynnydd yn y cyfraddau presenoldeb eleni mae rhagor o waith i'w wneud eto," meddai Mr Andrews.
"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod gan awdurdodau lleol ac ysgolion y sgiliau, yr hyder a'r gallu i gynnal y gwelliannau hyn ac adeiladu arnyn nhw."
Straeon perthnasol
- Published
- 15 Mai 2008
- Published
- 30 Tachwedd 2012
- Published
- 10 Mawrth 2012