Gweilch: Dim arian i ddenu chwaraewyr a chryfhau’r garfan
- Published
Mae'r Gweilch wedi cyfadde' na fyddan nhw mewn sefyllfa i ddenu chwaraewyr yn ystod yr haf.
Y Gweilch yw pencampwyr presennol y Pro12.
Nhw ydi'r rhanbarth mwya' llwyddiannus yn y bencampwriaeth ar ôl ennill y teitl bedair gwaith.
Ond dywedodd hyfforddwr y rhanbarth, Jonathan Humphreys na fydd modd cryfhau'r garfan.
Fe fydd y mewnwr dylanwadol Kahn Fotuali'i yn gadel i ymuno â Northampton ddiwedd y tymor a dim arian i brynu chwaraewyr newydd.
Mae gobeithion y tîm hyfforddi yn isel.
"Fe fydden ni wrth ein bodd yn gwario arian dros yr haf, ond does 'na ddim," meddai Humphreys.
"Does 'na ddim arian ac mae'n dod o sawl ffactor gan gynnwys y ffaith mai ni sy'n cael y cyllid lleiaf.
"Does dim ceiniog ar gael i gryfhau'r garfan."
Symud y Chwe Gwlad
Gyda Fotuali'i yn gadael yn yr haf mae'n dilyn nifer o chwaraewyr sydd wedi mynd dros y tymhorau diwethaf o Stadiwm Liberty gan gynnwys Paul James, Tommy Bowe, Nikki Walker, James Hook, Mike Phillips, Lee Byrne, Jerry Collins a Marty Holah.
Ychwanegodd Humphreys fod colli chwaraewyr rhyngwladol yn ystod gemau'r Hydref a Phencampwriaeth y Chwe Gwlad yn bryder i'r rhanbarth.
Mae cyn-gapten Cymru yn awgrymu cam radical i symud Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn benodol i ddiwedd y tymor.
"Dwi ddim yn gweld y sefyllfa yn gwella ac mae'n bryder," ychwanegodd Humphreys.
"Os ydi'r tymor yn aros fel ag y mae, mae'n bosib mai rhyw 10 gêm y tymor y mae'r chwaraewyr rhyngwladol yn ei gael i'r rhanbarth, a ni sy'n talu'r cyflog.
"Mae'n gwneud mwy o synnwyr iddo fod ar ddiwedd y bencampwriaeth.
"Rydym angen y chwaraewyr i chwarae i ni ac mae 'na beth wmbreth o rygbi i'w chwarae tra'u bod ar ddyletswydd ryngwladol."
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Ionawr 2013
- Published
- 27 Mai 2012
- Published
- 30 Gorffennaf 2012