Dathlu 25 mlynedd ers cyhoeddi'r Beibl Cymraeg Newydd
- Cyhoeddwyd

Mae arweinyddion eglwysi yn uno i ddathlu 25 mlynedd ers cyhoeddi'r Beibl Cymraeg Newydd.
Cyhoeddwyd y cyfieithiad cyntaf o'r Beibl cyfan i'r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan yn 1588.
Yn 1988 cyhoeddwyd y cyfieithiad modern cyflawn, cyntaf, o'r Beibl.
I nodi'r pen-blwydd ar Fawrth 1 mae'r Eglwysi yn annog pobl ledled Cymru i rannu eu hoff adnodau o'r Beibl drwy gyfrwng rhwydweithiau cymdeithasol megis Facebook a Twitter.
Dywedodd Watcyn James o Gymdeithas y Beibl ei bod hi bron yn amhosib deall hanes Cymru heb wybod rhywbeth am y Beibl.
"Allwch chi ddychmygu Cymru heb emynau?" gofynnodd.
Perthnadol
"Ac mae'r rheiny wedi tyfu allan o'n profiad o'r Beibl.
"Oni bai am Feibl yr Esgob William Morgan mae peryg y byddai'r iaith Gymraeg wedi darfod o'r tir.
"Dwi ddim yn credu ein bod yn sylweddoli faint o ddyled sydd arnom i'r rhai sydd wedi cymryd oes yn cyfieithu a gweithio i ddod â neges y Beibl yn berthnasol i'n cenhedlaeth ni," meddai.
Yn ogystal â dathlu pen-blwydd y Beibl Cymraeg Newydd bydd yna ddathlu hefyd i nodi'r ffaith fod y gwaith o roi'r Beibl cyfan ar-lein wedi ei gwblhau.
Arfon Jones, Swyddog Maes GiG (Gobaith i Gymru) wnaeth y rhan fwyaf o'r gwaith o baratoi'r wefan.
Dywedodd fod modd lawrlwytho beibl.net i ffôn symudol a bod llawer yn defnyddio'u ffonau i ddarllen y wefan.
"Bu chwyldro mawr pan ddechreuwyd argraffu llyfrau ac mae'r eglwys wedi gwneud defnydd llawn o hynny dros y blynyddoedd," meddai.
"Mae'n bwysig bod yr eglwys yn defnyddio'r chwyldro sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y byd digidol."
Dywedodd Rhys Llwyd, gweinidog ar Eglwysi Caersalem Caernarfon, Calfaria Penygroes ac Ebeneser Llanllyfni, ei bod yn bwysig i bob cenhedlaeth cael gair Duw yn ei iaith ei hun.
"Yn ein heglwys yng Nghaernarfon rydyn ni'n defnyddio beibl.net - yn ei roi ar sgrin," meddai.
Roedd yn meddwl bod rhannu adnodau o'r Beibl ar rwydweithiau cymdeithasol yn syniad da.
"Mae'n grêt," meddai.
"Mae'n ffordd dda o ddod â'r Beibl yn fyw yn hytrach 'na cael ei adael ar silff yn y capel.
"Mae pobl nawr yn ei drafod gyda'i gilydd ar rwydweithiau cymdeithasol.
"Byddaf yn annog pobl i ddefnyddio #beiblibawb ar Fawrth 1."
Straeon perthnasol
- 2 Awst 2008
- 8 Medi 2004
- 7 Mai 2004