Arestio trydydd dyn wrth ymchwilio i lofruddiaeth ffermwr
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Roedd Llywelyn Thomas yn ffermio yng Nghymru cyn symud i Loegr 13 blynedd yn ôl
Mae trydydd dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth Llywelyn Thomas, ffermwr 76 oed o Gymru, yn ei gartre' yn Sir Gaergrawnt.
Bydd John Smith, 66 oed o Bridlington yng Ngogledd Humberside, yn ymddangos o flaen ynadon yng Nghaergrawnt.
Mae o wedi'i gyhuddo o gynorthwyo troseddwr.
Mae dau ddyn eisoes wedi'u cyhuddo o lofruddio Mr Thomas.
Bydd Frankie Parker, 25 oed o Ely, a Gary Smith, 20 oed, heb gyfeiriad sefydlog, yn mynd o flaen llys ym mis Ebrill.
Cafwyd hyd i Mr Thomas yn farw yn ei gartref yn Chittering ar Ragfyr 18, 2011.
Roedd plismyn yn credu ei fod wedi marw'r diwrnod cynt.
Dangosodd archwiliad post mortem iddo farw o anafiadau i'w ben a'i wyneb.
Roedd Mr Thomas yn wreiddiol o ardal Sain Ffagan ger Caerdydd.
Straeon perthnasol
- 6 Chwefror 2013
- 31 Mai 2012
- 29 Mai 2012
- 1 Mai 2012
- 30 Mawrth 2012
- 29 Rhagfyr 2011
- 28 Rhagfyr 2011
- 24 Rhagfyr 2011
- 21 Rhagfyr 2011
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol