Dau yn y llys wedi'u cyhuddo o lofruddio nain yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam fore Mercher
Mae dau ddyn wedi ymddangos o flaen ynadon wedi eu cyhuddo o lofruddio dynes 65 oed yn ei chartre' yn Wrecsam.
Cafodd Alexandros Weatherill, 23 oed, a Christopher Curran, 34 oed, ill dau eu cyhuddo o lofruddio Glynis Solmaz ac o gynllwynio i dresbasu eiddo.
Cafodd corff Ms Solmaz ei ddarganfod ar Chwefror 20 ar stad Parc Caia, ble roedd hi'n byw ar ei phen ei hun.
Bydd y ddau yn ymddangos o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Iau ar gyfer gwrandawiad mechnïaeth.
Mae dau ddyn arall hefyd wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i ladrata.
Straeon perthnasol
- 24 Chwefror 2013