Cynllun parcio ar y Sul: 'Treth ar grefydd'
- Published
Mae cynllun i godi tâl am barcio ar y Sul yn Sir Gâr wedi cael ei ddisgrifio fel "treth ar grefydd".
Mae cynghorwyr Plaid Cymru yn y sir hefyd yn honni y bydd penderfyniad y cyngor yn golygu y bydd llai o bobl yn siopa yn y sir.
Dydd Mawrth penderfynodd Cyngor Sir Gâr i godi tâl am barcio ar y Sul gan ddweud y bydd y cynllun yn codi £56,000 yn ychwanegol y flwyddyn i'r cyngor.
Daeth y penderfyniad wrth i gynghorwyr bleidleisio o blaid cynnydd o 3% yn nhreth y cyngor ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
'Yr ergyd olaf'
Dair blynedd yn ôl, penderfynodd y cyngor beidio â chyflwyno taliadau parcio ar y Sul oherwydd y gallai rhwystro pobl rhag ymweld â chanol trefi gan effeithio ar fasnach.
Daeth yn sgil deiseb a arwyddwyd gan 3,000 o bobl ac ymgyrch gan eglwysi a chapeli lleol oedd yn dweud y byddai'r taliadau'n "dreth ar grefydd" petai bobl sy'n byw y tu allan i'r dref, neu sy'n rhy hen neu'n fethedig i gerdded i wasanaethau, yn gorfod talu am barcio.
Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Gâr: "Mae siopau bach a changhennau cwmnïau mawr yn cau'n frawychus o gyflym yng Nghaerfyrddin.
"Fe wnaeth Cyngor Tref Caerfyrddin, cynghorwyr sir leol a'r Siambr Fasnach ofyn i'r Cyngor Sir gyflwyno parcio am ddim o ganol y prynhawn fel mesur i helpu busnesau.
"Nid yn unig mae'r Cyngor Sir wedi gwrthod y syniad, ond mae nawr am roi diwedd ar barcio am ddim ar ddydd Sul.
"Trwy'r weithred hon, mae'r Cyngor Sir yn llwyddo i droseddu yn erbyn Duw a Mamon.
"Mae'n sathru ar hawliau pobl i fynychu gwasanaethau crefyddol heb orfod talu am wneud hynny ac yn rhoi mwy o bwysau ar fusnesau sydd eisoes yn cael trafferth i oroesi.
"I rai, mae'n bosib mai hwn fydd yr ergyd olaf."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Gâr: "Cytunodd y Cyngor Sir y cynnig ar gyfer codi tâl maes parcio ar y Sul, ac ar gyfer taliadau parcio ar y stryd, gyda manylion yn cael eu datblygu i nodi a hyrwyddo lleoliadau priodol yn y Sir.
"Byddai manylion cynlluniau o'r fath yn cael ei llunio mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol a busnesau."
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Chwefror 2013
- Published
- 26 Chwefror 2013
- Published
- 15 Chwefror 2013