Cymru'n rhyddhau chwe chwaraewr i'w rhanbarthau
- Cyhoeddwyd

Mae hyfforddwyr Cymru wedi rhyddhau saith o chwaraewyr o'u carfan er mwyn iddyn nhw fod ar gael i'w rhanbarthau dros y penwythnos.
Bydd Aaron Shingler, Matthew Rees a Liam Williams yn dychwelyd i'r Scarlets ac Alun Wyn Jones a James King yn dychwelyd i'r Gweilch.
Nôl i'r Gleision fydd Lou Reed a Lloyd Williams yn mynd.
Fe wnaeth Alun Wyn Jones ddod oddi ar y fainc ym muddugoliaeth Cymru o 26-9 yn erbyn Yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ddydd Sadwrn.
Doedd o ddim wedi chwarae dros Gymru na'r rhanbarth ers cael anaf.
Fe fydd y Dreigiau yn croesawu Leinster i Rodney Parade nos Wener a bydd y Scarlets yn croesawu Caeredin i Barc y Scarlets nos Wener.
Bydd Y Gleision yn teithio i Glasgow nos Wener cyn i'r Gweilch deithio i wynebu Munster ddydd Sadwrn.
Straeon perthnasol
- 23 Chwefror 2013
- 9 Chwefror 2013
- 2 Chwefror 2013