Lluniau o fywyd Cymraeg Caerdydd mewn arddangosfa newydd
- Published
Am dri mis fe fydd modd i'r cyhoedd weld arddangosfa o fywyd Cymraeg Caerdydd dros y blynyddoedd.
Mae'r arddangosfa, "Byw yn y Ddinas" i'w gweld fel rhan o arddangosfa ehangach Stori Caerdydd yn Yr Hen Lyfrgell sydd yng nghanol dinas Caerdydd.
Cafodd yr arddangosfa ei hagor yn swyddogol ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Mae'n cofnodi bywyd Cymraeg y ddinas ddoe a heddiw.
Mae Stori Caerdydd yn cynnig cyfle i elusennau neu sefydliadau yn y ddinas i arddangos eu hanes yno am gyfnodau.
Tro Menter Caerdydd ydi am y tri mis nesaf.
Cyfres o baneli a gwrthrychau yw'r arddangosfa sy'n adrodd hanes bywyd Cymraeg.
Penblwyddi
Fe ddaw ym mlwyddyn penblwydd y papur bro yn 30 oed eleni ac mae Clwb Ifor Bach hefyd yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu.
Dywedodd Llinos Williams o'r Fenter bod y Clwb a'r papur wedi bod o gymorth iddyn nhw wrth lunio'r arddangosfa.
"Wrth iddyn nhw ddathlu eleni roedden nhw o fudd i ni ac yn gwbl gefnogol," meddai.
"Fe wnaethom gais i'r 5,000 o bobl sy'n derbyn ein negeseuon e-bost am luniau, atgofion a dyfyniadau pobl.
"Fe gawson ni ymateb gwych ac mae'r arddangosfa yn ffrwyth yr ymateb hwnnw.
"Roedd Stori Caerdydd eisiau gwneud mwy am yr iaith yn y ddinas ac felly roedd yn gyfle i ni fel Menter gyd-weithio gyda nhw."
Bydd "Byw yn y Ddinas" hefyd yn arddangos hanes Menter Caerdydd a Gŵyl Tafwyl, a hanes Addysg Gymraeg yn y ddinas, gan gynnwys atgofion un o ddisgyblion a fynychodd Ysgol Gymraeg cyntaf yn ddinas, Ysgol Bryntaf.
Mae hanes y sin gerddoriaeth Cymraeg yng Nghaerdydd a hanes chwaraeon Cymraeg y ddinas hefyd yn cael ei arddangos.
Wrth agor yr arddangosfa dywedodd y Gweinidog â Chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg, Leighton Andrews, bod hi'n "dangos yn effeithiol hanes a thaith yr iaith yng Nghaerdydd dros y degawdau".
"Mae hyn yn hynod o ddiddorol wrth i ganlyniadau diweddaraf y Cyfrifiad ddangos bod Caerdydd yn mwynhau cynnydd yn y niferoedd o siaradwyr Cymraeg.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n sicrhau cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ac mae digwyddiadau cymunedol fel hyn yn gonglfaen i'n strategaeth iaith Gymraeg, sef Iaith byw iaith fyw."