BBC Cymru Fyw

Arddangos gwaith y chwarelwr John Neville Foulkes

Published
image captionMae arddangosfa newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, Gwynedd, fydd yn agor ar 28 Chweforor, yn edrych ar waith yr artist a chwarelwr John Neville Foulkes
image captionGaned Neville Foulkes yn Llanberis, Gwynedd, yn 1937. Ar ôl gadael ysgol dechreuodd weithio fel chwarelwr yn chwarel lechi Dinorwig.
image captionWedi cyfnod gyda'r lluoedd arfog yng ngogledd Affrica dychwelodd adref ac aeth yn ôl i weithio yn chwarel Dinorwig.
image captionCafodd ei amser yn y chwarel effaith mawr ar ei feddyliau a'i syniadau - mae sawl un o'u luniau dangos dynion yn gweithio gyda'i dwylo.
image captionRoedd hefyd yn ysgrifennu barddoniaeth. Thema gyson yn ei ysgrifennu yw ei hiraeth am y chwarel a'r gymuned a chwaraeodd rhan mor hanfodol yn ei fywyd.
image captionMae ei baentiadau hefyd yn darlunio ochr dywyll gweithio yn y chwarel, gan fynegi peryglon y gwaith.
image captionDywedodd yr artist John Meirion Morris, oedd yn ffrind i Foulkes a fu farw yn 1997, ei bod yn "artist sensitif sydd yn meddu ar ffordd unigryw o fynegi ei ofnau a'i obeithion".
image captionMae mynediad i'r arddangosfa yn rhad ac am ddim a bydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis o 28 Chwefror tan 30 Mehefin 2013.