'Bydd y clwb yn boblogaidd yn Asia'
- Cyhoeddwyd
Mewn cyfweliad â BBC Cymru mae perchennog clwb pêl droed Caerdydd, Vincent Tan, wedi bod yn disgrifio ei gynlluniau i wneud y clwb yn boblogaidd yn Asia.
Dywedodd Mr Tan ei fod yn bwriadu gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd os yw'r clwb yn llwyddo i ennill dyrchafiad i'r uwch gynghrair.
Rhybuddiodd hefyd y byddai'n gwerthu'r clwb pe bai'r cefnogwyr yn gwneud sylwadau dilornus amdano.
Coch yw'r lliw
Amddiffynnodd y penderfyniad i newid lliw'r crysau o las i goch, gan ddweud ei fod yn helpu'r clwb i ehangu ei apêl.
"Edrychwch ar Man United a Lerpwl - maen nhw mewn coch ac maen nhw lawer mwy llwyddiannus gyda mwy o gefnogwyr yn y byd na Chelsea neu Manchester City.
"Yn Asia, coch yw lliw llawenydd a dathlu, tra bod glas yn lliw galaru.
"Erbyn diwedd y tymor efallai y byddaf wedi buddsoddi £70m mewn benthyciadau a buddsoddiadau felly pam y buaswn eisiau gwneud pethe twp?
"Ry' ni eisiau gwneud yr hyn sy'n dda i'r clwb yn yr hir dymor".
Siaradodd hefyd am y posibilrwydd o ail-enwi Stadiwm Caerdydd, trwy ychwanegu'r enw Malaysia neu noddwr mawr o Asia.
Ond mae'r hawliau i enwi'r stadiwm yn gysylltiedig â dyled hanesyddol o £19m i gwmni o'r enw Langston sy'n gysylltiedig â'r cyn gadeirydd Sam Hammam.
Yn ôl cyfrifon diweddaraf y clwb mae ganddo ddyledion o £83m. Ond mae llawer o hynny yn ddyledus i Vincent Tan, a dywedodd mai ei fwriad yw trosglwyddo'r swm i mewn i gyfranddaliadau - ond dim ond ar ôl setlo'r ddyled gyda Langston.
Ychwanegodd Tan: "Os yw'r cefnogwyr yn rhoi croeso i mi, fe allaf aros am gyfnod hir, ond os nad ydynt yn fy nghroesawu ac yn anghwrtais, yna efallai y byddaf yn dod o hyd i brynwr newydd ac yn gadael.
"Ond os ydw i'n gadael, fe fyddaf yn gadael y clwb mewn cyflwr da".
Straeon perthnasol
- 5 Chwefror 2013
- 6 Mehefin 2012