Dal tri wnaeth ddianc o garchar
- Published
image copyrightGwent Police
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi dal tri dyn oedd wedi dianc o garchar agored yn Sir Fynwy.
Roedd Stephen Booth, 34, Jason Morris, 38, a John Phillips, 28 wedi mynd ar goll o garchar Prescoed nos Fawrth.
Roedd y tri wedi eu cael yn euog o droseddau gwahanol o ddwyn.
Dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi dod o hyd i'r tri a'u bod yn y ddalfa tan iddyn nhw gael eu dychwelyd i'r carchar.
Credir eu bod wedi eu canfod mewn eiddo yn ardal Casnewydd nos Fercher.