Gŵyl Portmeirion yn ennill gwobr
- Published
Mae gŵyl gerddorol a gafodd ei chynnal am y tro cyntaf yn 2012 wedi ennill gwobr fel Gŵyl Fechan Orau cylchgrawn yr NME.
Cafodd Festival No.6 ei chynnal ym Mhortmeirion ym mis Medi y llynedd.
Eisoes mae'r trefnwyr wedi datgan eu bwriad i gynnal yr ŵyl am y ddwy flynedd nesaf.
Roedd yr ŵyl yn cynnwys nifer o grwpiau, ond hefyd celfyddydau eraill gydag awduron yn cynnal sesiynau holi ac ateb am eu llyfrau newydd.
Bu rhai pobl yn yr ardal yn cwyno wedi'r ŵyl bod sŵn y gerddoriaeth i'w glywed yn hwyr y nos, ond mae'r trefnwyr eisoes wedi cyhoeddi eu bod am gymryd camau i sicrhau na fydd yr un peth yn digwydd yn 2013.
Chafodd trigolion sy'n byw yn agos i'r safle ddim eu haflonyddu ond clywyd sŵn y gerddoriaeth gan bobl sy'n byw ar draws aber Dwyryd yn Nhalsarnau.
Cafodd noson wobrwyo'r NME ei chynnal yng nghlwb The Troxy yn Llundain nos Fercher.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Hydref 2012