Her 7-bob-ochr Cymru
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, AFP
Curodd Cymru Ariannin yn y rownd derfynol yn Dubai yn 2009
Fe fydd rhaid i Gymru guro dau dîm o Fôr y De os ydyn nhw am ennill Pencampwriaeth Rygbi 7-bob-ochr y Byd.
Wrth i'r enwau ddod o'r het, daeth enw Cymru yn yr un grŵp â Fiji, Tonga ac Wrwgwai ar gyfer y gystadleuaeth ym Moscow yn ddiweddarach eleni.
Cymru enillodd y gystadleuaeth yn Dubai bedair blynedd yn ôl.
Ers hynny nid yw'r tîm wedi cael cystal hwyl ar bethau, ac maen nhw bellach yn wythfed ar restr detholion yr IRB o gymharu â Fiji sy'n bedwerydd.
Yn 2009, roedd Wrwgwai yn yr un grŵp â Chymru, ond fe gollon nhw bob gêm yn y grŵp.
Er i Gymru orffen yn ail i Ariannin yn y grŵp, fe aethon nhw ymlaen i guro Seland Newydd a Samoa cyn curo Ariannin yn y rownd derfynol.