Heddlu'n ymchwilio i ladrad ar fws
- Published
Mae'r heddlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn ymchwilio i ladrad ddigwyddodd ar fws yn Nantymoel nos Fercher.
Roedd gyrrwr y bws wedi gorffen troi'r cerbyd mewn cylch arbennig ar Stryd Commercial yn y pentref.
Daeth person ar y bws am tua 8:45pm gan fygwth y gyrrwr a mynnu cael ei ffôn symudol ac arian.
Doedd neb arall ar y bws ar y pryd.
Llwyddodd y dyn i ddianc gyda'r ffôn a swm o arian.
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn gwyn gydag wyneb tenau, ac roedd yn gwisgo het wlân ddu a sgarff ddu dros ei wyneb.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Melanie Deere: "Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus iawn i'r dioddefwr, ac rydym am glywed gan unrhyw un allai fod â gwybodaeth am y lladrad yma.
"Ni fyddwn yn goddef ymddygiad fel hyn, ac rwy'n apelio ar unrhyw un a welodd berson yn ymddwyn yn amheus yn ardal y cylch troi bysys yn Nantymoel nos Fercher am tua 8:45pm i gysylltu â ni."
Gofynnir i bobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad i ffonio Cwnstabl Deere ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar 01656 679518, neu Heddlu'r De ar 101. Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.