Llofruddiaeth: Cadw dau yn y ddalfa

  • Cyhoeddwyd
Bryn Hafod, Wrexham
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Ms Solmaz yn Wrecsam yr wythnos diwethaf

Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron barnwr ar gyhuddiad o lofruddio menyw yn ei chartref yn Wrecsam.

Cafwyd hyd i gorff Glynis Solmaz, 65 oed, yn ei chartref ar stad Parc Caia yn y dref yr wythnos diwethaf.

Mae Alexandros Wetherill, 23 oed o Blas Gwyn, Wrecsam a Christopher Curran, 34 oed a heb gyfeiriad parhaol, wedi eu cyhuddo o lofruddiaeth a chynllwynio i ladrata.

Wedi gwrandawiad a barodd am 11 munud yn Llys y Goron Caernarfon, dywedodd y Barnwr Merfyn Hughes QC y dylid cadw'r ddau yn y ddalfa tan Fai 7 pan fyddan nhw'n pledio mewn gwrandawiad arall.