Y Scarlets yn rhyddhau clo Yr Ariannin Tomás Vallejos

Tomás Vallejos Image copyright PA
Image caption Mae Tomás Vallejos wedi chwarae yn Yr Eidal hefyd

Mae'r Scarlets wedi rhyddhau clo Ariannin, Tomás Vallejos, o'i gytundeb â'r rhanbarth.

Dim ond wyth gwaith mae Vallejos wedi cynrychioli'r Scarlets ers iddo ymuno â'r rhanbarth y llynedd.

Fe fydd yn dychwelyd i Ariannin i ymarfer gyda chlwb Pampas XV cyn iddynt deithio i Dde Affrica i gystadlu yng nghwpan Vodacom.

Vallejos, 28 oed, oedd y cyntaf o Ariannin i arwyddo ar gyfer un o ranbarthau Cymru pan adawodd yr Harlequins ar drothwy tymor 2012-13.

Diolchodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby, Vallejos, sydd wedi chwarae wyth gwaith dros Ariannin, am ei "ysbryd a'i frwdfrydedd" yn ystod y tymor.

Mae'r Scarlets yn y pumed safle yng Nghynghrair RaboDirect Pro12 ar hyn o bryd ac fe fyddan nhw'n herio Caeredin ar Barc y Scarlets nos Wener.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.