Gweinidog yn wfftio deddfwriaeth morglawdd
- Published
Mae gweinidog o lywodraeth y DU wedi codi amheuon am roi sêl bendith i godi morglawdd dros Afon Hafren.
Wfftiodd y gweinidog ynni Greg Barker yr honiad y gallai deddf fyddai'n sicrhau'r datblygiad gael ei phasio cyn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Dywedodd bod rhaid i'r cwmni sydd y tu ôl i'r fenter, Hafren Power, ddarparu mwy o wybodaeth cyn y gallai llywodraeth y DU gynnig datganiad o gefnogaeth.
Dywedodd Hafren Power eu bod wedi cyflwyno achos busnes mewn dogfen 150 tudalen, a'u bod yn siomedig gyda'r feirniadaeth.
Dywed y rhai sydd o blaid y datblygiad y byddai'n creu swyddi ac yn gymorth i daclo newid hinsawdd, ond mae gwrthwynebwyr yn dweud y bydd yn niweidio'r amgylchedd.
'Embaras'
Roedd Mr Barker yn rhoi tystiolaeth i Aelodau Seneddol ar y Pwyllgor Ynni a Newid Hinsawdd.
Dywedodd un aelod o'r pwyllgor, yr AS Llafur John Robertson, bod cyn lleied o wybodaeth wedi ei ddarparu gan Hafren Power fel bod y peth "yn embaras".
Cytunodd Mr Barker gyda chadeirydd y pwyllgor, yr AS Ceidwadol Tim Yeo, bod "nifer o gwestiynau reit fawr heb gael eu hateb yn ddigonol".
Dywedodd y gallai Morglawdd Hafren fod yn gaffaeliad sylweddol i'r DU, ond ychwanegodd:
"Fodd bynnag dyw'r wybodaeth ddaeth i law'r adran hyd yma ddim yn caniatau i ni asesu os yw'r cynllun yn gredadwy, nac os oes ganddo'r cyfle i wireddu'r buddion y mae'r cynllun yn honni sydd yn bosibl.
"Mae nifer o faterion y mae angen i Hafren Power ystyried mewn llawer mwy o fanylder cyn y gallwn benderfynu os yw'r cynllun yn haeddu mwy o sylw gan y llywodraeth."
Diffyg manylion
Er enghraifft, dywedodd nad oedd y cwmni wedi darparu manylion am gynllun y tyrbinau, oedd yn golygu nad oedd y llywodraeth wedi medru llunio barn am effaith ecolegol y cynllun na'i gost.
Bydd angen deddfwriaeth cyn y gall y cynllun fynd yn ei flaen, a phan ofynnwyd i'r gweinidog a fyddai modd pasio deddfwriaeth o'r fath cyn yr etholiad yn 2015, atebodd: "Dim o gwbl."
Dywedodd llefarydd ar ran Hafren Power: "Rydym yn falch o weld yr Adran Ynni yn cadw meddwl agored am y cynllun, ond rydym yn siomedig gyda'r feirniadaeth o ddiffyg manylder wedi iddo dderbyn achos busnes 150 o dudalennu gennym.
"Ond fe fyddwn yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth er mwyn rhoi atebion ac er mwyn sicrhau'r gefnogaeth i fwrw 'mlaen gyda'r cynllun."
Straeon perthnasol
- Published
- 17 Chwefror 2013
- Published
- 10 Ionawr 2013
- Published
- 9 Ionawr 2013
- Published
- 13 Rhagfyr 2012
- Published
- 4 Tachwedd 2012
- Published
- 20 Awst 2012
- Published
- 16 Gorffennaf 2012