Stephen Jones i ymddeol a throi at hyfforddi
- Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Mae Stephen Jones yn 35 oed
Bydd cyn-faswr Cymru, Stephen Jones, yn ymddeol o rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor.
Jones sydd wedi ennill y nifer mwya' o gapiau i Gymru - 104 - ac fe fu'n cynrychioli'r Llewod chwe gwaith.
Yn 35 oed, fe fydd yn rhoi'r gorau i chwarae'r gamp.
Bydd yn ymuno gyda thîm hyfforddi clwb y Wasps yn Llundain.