Toyota: Creu 70 o swyddi ar Lannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni ceir Toyota yn creu 70 o swyddi newydd ar Lannau Dyfrdwy oherwydd galw cynyddol.
Dywed y cwmni eu bod eisoes wedi dechrau recriwtio.
Mae'r ffatri'n gwneud peiriannau ar gyfer cerbydau sy'n cael eu cynhyrchu ym Mrasil.
Bydd y ffatri yn dechrau cyflenwi'r injans i gar newydd sy'n cael ei gynhyrchu yn y DU.
'Swyddi cynaliadwy'
Mae'r safle ar Lannau Dyfrdwy yn cyflogi dros 500 o bobl.
Hon oedd y ffatri gyntaf y tu allan i Japan i gynhyrchu injan hybrid y cwmni sy'n cael ei ystyried yn un o'r goreuon yn ei ddosbarth.
Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, David Jones, a fydd yn ymweld â'r ffatri ddydd Gwener, mae'n enghraifft wych o sut mae Cymru'n lleoliad hollbwysig ar gyfer masnachu.
Ychwanegodd Mr Jones, AS Gorllewin Clwyd: "Mae Toyota wedi gwneud cyfraniad hollbwysig i lwyddiant diwydiant ceir yn y DU gan greu swyddi cynaliadwy yng Ngogledd Cymru."
Dathlodd cwmni Toyota 20 mlynedd o gynhyrchu peiriannau ceir ar Lannau Dyfrdwy y llynedd.
Straeon perthnasol
- 10 Medi 2012
- 3 Mai 2011
- 21 Ebrill 2011