Y Tywysog Charles a Duges Cernyw yn ymweld â Chymru
- Published
Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn ymweld â Chymru ar Ddydd Gŵyl Dewi.
Yng Nghaerdydd fe fyddan nhw'n bresennol yn y gwasanaeth cenedlaethol yn Eglwys Sant Ioan Fedyddiwr.
Archesgob Cymru Dr Barry Morgan fydd yn arwain y gwasanaeth ac ymhlith y gynulleidfa hefyd y bydd aelodau o Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.
Yn ddiweddarach yn y dydd bydd y cwpl yn ymweld â Choleg Cerdd a Drama Cymru yn y brifddinas.
Telynorion
Yn ystod yr ymweliad fe fyddan nhw'n mynychu cyngerdd Gŵyl Ddewi.
Bydd y Delynores Frenhinol Hannah Stone a'r gyn-delynores Frenhinol Catrin Finch yn perfformio.
Bydd y cyngerdd yn cynnwys perfformiad o 'Cambria's Homage to our Empress Queen' - gafodd ei ysgrifennu gan John Thomas ar gyfer y Frenhines Victoria yn 1897.
John Thomas oedd y cyntaf i gael ei benodi fel Telynor Brenhinol ac mae hi'n gan mlynedd ers iddo farw.
Yn ystod yr ymweliad bydd y Tywysog yn derbyn rhodd o glarinét.
Daw'r pren ar gyfer yr offeryn o goedwigoedd Tanzania sy'n rhan o brosiect elusen Size of Wales.
Cafodd yr elusen ei lansio gan Dywysog Cymru yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn 2010.
Y Frenhines
Erbyn hyn mae'r elusen wedi cwblhau ei darged o godi £2 miliwn er mwyn amddiffyn 2 miliwn hectar o goedwigoedd trofannol - ardal sy'n cyfateb i faint Cymru.
Wedi ymweliad y Tywysog a'r Dduges ddydd Gwener fe fydd Y Frenhines yn ymweld ag Abertawe ddydd Sadwrn.
Fe fydd hi'n cymryd rhan mewn seremoni draddodiadol o gyflwyno cennin i aelodau Trydydd Bataliwn Catrawd y Cymry Brenhinol.
Y Frenhines yw Prif Gyrnol y Gatrawd.
Bydd y seremoni yn cael ei chynnal yn Neuadd y Ddinas.
Straeon perthnasol
- Published
- 21 Chwefror 2013
- Published
- 21 Chwefror 2013