Apêl am arian i sefydlu ysgoloriaethau i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
- Cyhoeddwyd

Mae Tywysog Cymru wedi lansio apêl sylweddol i godi £20 miliwn ar gyfer ysgoloriaethau i Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud ar Ddydd Gŵyl Dewi wrth i'r Tywysog, Noddwr y Coleg, a Duges Cernyw fynychu dathliad arbennig yn y coleg.
Roedden nhw yno fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi ac i lansio Apêl Ysgoloriaethau'r Coleg.
Fe fydd yr ysgoloriaethau yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr astudio yn y coleg.
Yn 2007 fe sefydlwyd Ysgoloriaethau'r Tywysog sy'n cynnig cefnogaeth i bump myfyrwyr eithriadol mewn pum agwedd wahanol o'r gwaith sy'n cael ei gynnig yn y coleg.
Dennu rhoddion
Fe sefydlwyd yr ysgoloriaethau yn wreiddiol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a bellach maen nhw'n mynd i gael eu gweinyddu gan y Coleg ac yn cefnogi pum myfyriwr i astudio yno.
Y pum derbynnydd cyntaf ydi Camilla Clarke (Cynllunio Theatr); Toks Dada (Gweinyddu'r Celfyddydau); Elliw Dafydd (Actio); David Doidge (répétiteur piano) a Trystan Griffiths (Opera).
Cafodd y Tywysog gyfle i gyfarfod y pump ar ei ymweliad â Chaerdydd ddydd Gwener.
Gobaith yr apêl ddiweddara yw dennu rhoddion sylweddol er mwyn cynyddu'r gwaddol i £20 miliwn er mwyn gallu cynnig cefnogaeth hael i'r myfyrwyr.
"Mae'r Tywysog yn Noddwr brwd a chefnogol i'r Coleg," meddai Hilary Boulding, Prifathro'r Coleg.
"Ychydig flynyddoedd yn ôl bu mor garedig â chynnal noson gala ym Mhalas Buckingham lle bu ein myfyrwyr yn perfformio.
"Rydym yn falch iawn ei fod ef a Duges Cernyw yn gallu bod gyda ni heddiw wrth i ni lansio'r apêl uchelgeisiol hon.
"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r Tywysog Charles a Chyngor Celfyddydau Cymru sydd wedi ei gwneud hi'n bosibl i'r Coleg gefnogi pum myfyriwr eithriadol dalentog drwy bump 'Ysgoloriaeth Tywysog Cymru'."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2013