Cytundeb newydd i Ryan Giggs gyda Manchester United
- Published
Mae Ryan Giggs wedi arwyddo cytundeb blwyddyn gyda Manchester United.
Mae hyn yn golygu y bydd y Cymro yn chwarae i'r tîm sydd ar frig yr Uwch Gynghrair ar ôl ei ben-blwydd yn 40 oed gan ei gadw yn Old Trafford tan Fehefin 2014.
Mae'n bosib y bydd Giggs yn chwarae am y 1,000fed tro yn ei yrfa dros y penwythnos pan fydd Manchester United yn herio Norwich yn Old Trafford ddydd Sadwrn.
Chwaraeodd cyn-gapten Cymru i United am y tro cyntaf ar Fawrth 2 1991 ac mae wedi sgorio 168 gôl mewn 931 o gemau i'r clwb.
Cynrychiolodd Cymru 64 tro cyn rhoi'r gorau i'w yrfa ryngwladol yn 2007.
Ef oedd capten Tîm Pêl-droed GB yng Ngemau Olympaidd Llundain yr haf diwethaf.
Mae Giggs wedi ennill yr Uwch Gynghrair 12 tro yn ogystal â phedair Cwpan yr FA, tair Cwpan y Gynghrair a Chynghrair Pencampwyr Ewrop ddwywaith gydag United.
Dywedodd rheolwr Manchester United, Syr Alex Ferguson: "Mae Ryan yn esiampl i bawb o ran y ffordd mae'n edrych ar ôl ei hun.
"Rwy' ar ben fy nigon ei fod wedi arwyddo cytundeb newydd."
Straeon perthnasol
- Published
- 8 Gorffennaf 2012
- Published
- 2 Mawrth 2012
- Published
- 26 Rhagfyr 2011