Morgannwg yn arwyddo Nannes
- Published
Bydd y cyn-fowliwr rhyngwladol Dirk Nannes yn ymuno â Morgannwg ar gyfer cystadleuaeth 20 pelawd Friends Life eleni.
Chwaraeodd Nannes 15 tro dros Awstralia mwn gemau rhyngwladol 20 pelawd ar ôl cynrychioli'r Iseldiroedd ddwywaith.
Mae e'n cael ei ystyried fel arbenigwr y gêm 20 pelawd ac mae wedi cynrychioli clybiau yn Awstralia, Seland Newydd, India, Sri Lanka, Bangladesh a Zimbabwe.
Mae'r bowliwr llaw chwith 36 oed hefyd wedi cynrychioli Middlesex, Swydd Nottingham a Surrey.
Nannes oedd bowliwr mwyaf llwyddiannus yng Nghwpan Y Byd 20 pelawd yn 2010 gan gymryd 14 wiced ar gyfartaledd o 13.07.
Dywedodd pennaeth perfformiad elitaidd Morgannwg, Matthew Mott: "Rydym yn hapus iawn y bod Dirk wedi ymuno â Morgannwg am fod y bowlwyr sy'n gallu cymryd wicedi a bowlio'n dda ar ddiwedd y gêm yn brin iawn."
Straeon perthnasol
- Published
- 26 Chwefror 2013
- Published
- 20 Chwefror 2013
- Published
- 4 Chwefror 2013
- Published
- 1 Tachwedd 2012
- Published
- 27 Chwefror 2012