Perchennog Caerdydd ddim am newid enw'r clwb
- Cyhoeddwyd

Mae perchennog Clwb Pêl-Droed Caerdydd, Vincent Tan wedi dweud na fydd yn newid enw'r clwb i Ddreigiau Caerdydd.
Dywedodd Mr Tan mewn datganiad ar wefan y clwb na fydd y clwb yn newid ei enw ar gyfer y tymor nesaf.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y byddai'r datganiad yn lleddfu pryderon cefnogwyr y clwb sydd ar frig y Bencampwriaeth.
Dydd Iau dywedodd ei fod yn bwriadu gwario hyd at £25 miliwn ar chwaraewyr newydd os yw'r clwb yn llwyddo i ennill dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair.
Rhybuddiodd hefyd y byddai'n gwerthu'r clwb pe bai'r cefnogwyr yn gwneud sylwadau dilornus amdano.
"Gallaf sicrhau'r holl gefnogwyr na fyddwn ni'n newid ein henw o Glwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd, clwb rwy'n falch iawn i fod yn rhan ohono.
"Ein henw yw ein hunaniaeth ac yn rhan ganolog o'r clwb.
"Fyddwn i ddim am i unrhyw un o'n cefnogwyr bryderu am newid yr enw ac rwy'n gobeithio bod yr ymrwymiad personol hwn yn lleddfu unrhyw bryderon.
"Rwy'n credu bod newid lliw'r clwb yn gam positif ac yn fuddiol i Glwb Pêl-Droed Dinas Caerdydd.
"Ar hyn o bryd does dim penderfyniad wedi ei wneud o ran newid bathodyn y clwb ar gyfer y tymor nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2013
- Cyhoeddwyd6 Mehefin 2012