700 yn mynychu parêd Gŵyl Dewi Aberystwyth
- Published
Mynychodd tua 700 o bobl y parêd Gŵyl Dewi cyntaf i gael ei gynnal yn Aberystwyth brynhawn dydd Gwener.
Yr arbenigwr cerddoriaeth werin y Dr Meredydd Evans oed Tywysydd cyntaf y parêd blynyddol i ddathlu iaith a diwylliant Cymraeg Aberystwyth.
Trefnwyd y parêd trwy strydoedd y dref gan nifer o sefydliadau Cymraeg Aberystwyth a'r cylch.
Dechreuodd yr orymdaith wrth gloc y dref tua 1pm cyn teithio ar hyd Y Stryd Fawr, Stryd y Popty a Llys y Brenin lle cafodd seremoni ei gynnal.
Cafodd y parêd ei arwain gan Ceri Rhys Matthews o Bencader a chwaraodd y bibgod Gymreig.
Llys y Brenin
Ymysg y perfformwyr eraill fu'n gorymdeithio oedd Côr Meibion Aberystwyth, Band Arian Aberystwyth a grŵp gwerin Radwm o Aberteifi.
Yn corlannu'r orymdaith oedd Band Drwm Cambria o'r Wyddgrug - yr unig fand drwm unigryw Cymreig.
Gobaith y trefnwyr yw cynnal y parêd yn flynyddol ac i'r perwyl hwn fe fydd y trefnwyr yn anrhydeddu rhywun o ardal Aberystwyth sydd wedi cyfrannu at iaith a diwylliant Cymru gan ei wneud yn Tywysydd y Parêd.
Eleni, y Tywysydd oedd y Dr Meredydd Evans o Gwm Ystwyth sydd wedi cyfrannu i'r iaith a diwylliant Gymraeg er 70 mlynedd.
Wrth annerch y dorf ddydd Gwener, dywedodd Mr Evans y dylai Mawrth 1 fod yn Ŵyl gyhoeddus yng Nghymru.
Yr awdur a'r darlledwr Lyn Ebenezer a arweiniodd y seremoni yn Llys y Brenin a chafodd y parêd ei fendithio gan y Parchedig Peter Thomas.
Daeth nifer o unigolion, clybiau a chymdeithasau yn Aberystwyth megis Merched y Wawr, Twf, yr Urdd, Mudiad Meithrin, UMCA (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth), UCAC, Ysgol Penweddig a Menter Iaith Cered at ei gilydd i greu'r digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Published
- 10 Chwefror 2013
- Published
- 4 Mawrth 2011
- Published
- 1 Mawrth 2010
- Published
- 27 Chwefror 2009