Damwain: Menyw mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth ar ôl i fenyw 54 oed ddioddef anafiadau difrifol wedi iddi fod mewn gwrthdrawiad â bws yng Nghaerffili ddydd Sul.
Cafodd y fenyw ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yn dilyn y ddamwain ar Ffordd Nantgarw tua 2pm.
Dywed yr ysbyty bod y fenyw mewn cyflwr difrifol iawn.
Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu'r heddlu ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol