Bocsio: Gohirio amddiffyniad Cleverly
- Cyhoeddwyd

Mae pedwerydd amddiffyniad Nathan Cleverly o goron is-drwm WBO y byd wedi cael ei ohirio am fis.
Roedd Cleverly fod ymladd Robin Krasniqi o Serbia ar Fawrth 16, ond yn awr fe fydd yr ornest yn cael ei chynnal ar Ebrill 20.
Cafodd yr amddiffyniad ei ohirio am fod dwy ornest arall oedd i fod gael eu cynnal yn Llundain y noson honno wedi eu canslo.
Dywed y trefnwyr y bydd tocynnau ar gyfer yr ornest oedd i fod cael ei chynnal ym mis Mawrth yn dal yn ddilys ar gyfer Ebrill.
Hwn fydd y pedwerydd tro i'r Cymro 26 oed o Gefn Fforest ger y Coed-duon amddiffyn ei bencampwriaeth.
Llwyddodd Cleverly amddiffyn ei goron am y trydydd tro pan gafodd ei ornest yn erbyn Shawn Hawk o America yn Los Angeles ym mis Tachwedd y llynedd ei stopio yn yr wythfed rownd.
Mae Cleverley wedi ennill bob un o'i 25 gornest, ac mae Krasniqi, 25 oed, wedi ennill 39 a cholli dwy.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012