BBC Cymru Fyw

Cymru yn China: lluniau o'r arddangosfa

Published
image captionAmgueddfa China Three Gorges Museum yn Chongqing lle bydd arddangosfa o wrthrychau o Gymru o 4 Mawrth i 30 Mehefin.
image captionMae'r arddangosfa'n gyflwyniad i Gymru a bydd yn cynnwys sawl wrthrych pwysig o gasgliadau Amgueddfa Cymru. Darganfuwyd Brigwrn Capel Garmon yn 1852 ger Capel Garmon, Conwy, ac fe'i ystyrir yn un o ddarnau pwysicaf gwaith haearn addurnol cynnar ym Mhrydain.
image captionEitem arall fydd yn ran o'r arddangosfa yw cwpan aur Castell Carn Dochan. Gwnaethpwyd y cwpan ym 1867 ar gyfer teulu'r Williams-Wynn o Riwabon yn Sir Ddinbych, gan ddefnyddio aur o'u gwaith aur eu hunain.
image captionYmhlith yr eitemau yn yr arddangosfa bydd torch o'r Oes Efydd a ganfuwyd yn Fferm Cefn, Llanwrthwl, Powys.
image captionMae'r darlun yma'n seiliedig ar gerdd Thomas Gray, The Bard.
image captionMae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys darnau sy'n dangos hen draddodiad Celtaidd Prydain a Chymru.
image captionMae Cestyll Cymru, fel Castell Cricieth yma, yn rhan bwysig 'r arddangosfa yn ogystal.
image captionRhoddwyd y blwch 'snuff' yma i'r Cymro HM Stanley gan y Frenhines Fictoria.
image captionMae treftadaeth diwydiannol Cymru hefyd yn rhan bwysig o'r arddangosfa
image captionBydd dresel Cymreig hefyd yn rhan o'r arddangosfa, gyda rhai o'r platiau yn dangos patrwm 'Willow" sy'n seiliedig at stori o China.