Democratiaid Rhyddfrydol yn galw am 'Senedd go iawn'
- Published
Dylid datganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad Cenedlaethol fel cam tuag at "Senedd go iawn" yng Nghaerdydd, medd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.
Daeth yr alwad yng nghyflwyniad y blaid i Gomisiwn Silk, sy'n ystyried a ddylid rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad.
Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol y dylid rheoli carchardai a phlismona o Fae Caerdydd yn ogystal.
Mae Comisiwn Silk eisoes wedi cyhoeddi un adroddiad sy'n dweud y dylai'r Cynulliad gael rhai pwerau i amrywio trethi.
Oed pleidleisio
Yn eu tystiolaeth i Gomisiwn Silk, mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud eu bod yn cynnig cynlluniau i "hybu'r Cynulliad Cenedlaethol gan symud yn agosach at Senedd go iawn i Gymru".
Maen nhw am weld y Cynulliad yn cael yr hawl i newid trefniadau etholiadau lleol, gan gynnwys y grym i ostwng yr oed pleidleisio i 16.
Maen nhw hefyd am weld pwerau dros reoleiddio darlledu a phenderfyniadau am gynllunio ynni yn cael eu datganoli.
Dywedodd y blaid bod angen model newydd i ddatganoli er mwyn egluro'n llawn pa bwerau sydd gan y Cynulliad a pha bynciau polisi sy'n parhau o dan reolaeth San Steffan.
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Kirsty Williams: "Rwy'n hynod falch o gredo'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig y dylid sicrhau hunan reolaeth i Gymru, ac rwy'n credu bod ein cyflwyniad heddiw yn dilyn y traddodiad yna.
"Roedd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn rhan o sefydlu Comisiwn Silk gan ein bod yn credu bod rhaid i Gymru gael Senedd sy'n medru gweithredu'n iawn.
"Byddai ein cynlluniau yn cymryd cam anferth tuag at gyflawni'r nod yna."
Straeon perthnasol
- Published
- 1 Mawrth 2013
- Published
- 27 Chwefror 2013
- Published
- 25 Chwefror 2013
- Published
- 25 Chwefror 2013
- Published
- 18 Chwefror 2013
- Published
- 19 Tachwedd 2012
- Published
- 19 Tachwedd 2012
- Published
- 19 Tachwedd 2012