Ffordd ar gau wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae ffordd yr A4107 yng Nghwm Afan ar gau i'r ddau gyfeiriad wedi damwain ddifrifol.
Dywed Heddlu'r De bod y ffordd ar gau rhwng Cymer a Blaengwynfi yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad, ac mae'r fenyw oedd yn gyrru wedi ei chludo i'r ysbyty.
Mae'r gwasanaethau brys yn parhau ar y safle, a does dim amcangyfrif hyd yma pryd fydd y ffordd yn ailagor.
Mae'r traffig yn yr ardal yn cael ei ddargyfeirio, ac mae'r heddlu'n dweud bod traffig yn araf bob pen i'r rhan o'r ffordd sydd wedi cau.