Shane yn dewis aros yn Japan
- Published
Mae Shane Williams wedi gwrthod y cyfle i ymuno â thîm Toulon yn Ffrainc er mwyn aros am dymor arall gyda Mitsubishi Dynaboars yn Japan.
Dywedodd Williams, 36 oed, y byddai wedi ystyried ymuno â Toulon yn gynharach yn ei yrfa pe bai'r cyfle wedi codi.
"Fe ddaeth cyfle i fynd i Toulon, a thimau eraill hefyd, ond doedd yr amser ddim yn iawn i fi," meddai Williams.
"Pe bawn i wedi cael y cynnig flynyddoedd yn ôl pan nad oedd cytundeb gen i, fe fyddwn i wedi mynd.
"Rwyf wedi cytuno i ddychwelyd i Japan i wneud dipyn o hyfforddi ac ychydig o chwarae hefyd - mae'n brofiad gwych a rhywbeth nes i erioed feddwl y bydden i'n cael y cyfle i wneud."
Ym Mehefin 2012, cyhoeddodd sgoriwr i nifer fwyaf o geisiau o Gymru erioed ei fod wedi ailfeddwl am ymddeol a mynd i chwarae yn y dwyrain pell.
Yn flaenorol mae Williams wedi cyfadde' bod ei gyflog yn Japan yn "anhygoel".
Rhoddodd y gorau i chwarae dros Gymru ym mis Rhagfyr 2011 ar ôl sgorio 58 cais mewn 87 o gemau i'w wlad, a dau gais mewn pedwar prawf i'r Llewod.
Cyhoeddodd wedyn yn Chwefror 2012 ei fod am ymddeol o rygbi yn llwyr ar ôl gwrthod cynnig i ymestyn ei yrfa gyda'r Gweilch cyn newid ei feddwl.